Warning
Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.
Cynorthwywyr ADY
Dyddiad hysbysebu: | 07 Gorffennaf 2025 |
---|---|
Cyflog: | Heb ei nodi |
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | £19,166 - £20,046 |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 18 Gorffennaf 2025 |
Lleoliad: | Caerdydd, Cardiff, CF23 9DT |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | eTeach UK Limited |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | 1498072 |
Crynodeb
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 bydd tua 975 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal a bod yr ysgol yn creu diwylliant ac ethos o’r ysgol sy’n dysgu sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel. Dyfarnwyd fod lles a diwallu anghenion disgyblion, ynghyd â yn gryfderau penodol yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swyddi llawn amser yn yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno â thîm profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn ein cymuned.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o
fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Cydlynydd Angenion Dysgu Ychwanegol, Mrs Meriel Powell.
Proses Ymgeisio
Gallwch ymgeisio am y swyddi yma drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gallwch sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol. Mae’r swyddi gwag hyn yn addas i’w rhannu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.