Menu

Prentis Caffael

Job details
Posting date: 03 July 2025
Salary: £25,584 to £30,060 per year
Hours: Full time
Closing date: 30 July 2025
Location: St. Asaph, Denbighshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 3 days per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

PRENTIS CAFFAEL
(gan arwain at Gynorthwyydd Caffael)
Adran Cyllid a Chaffael
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Llwybr Gradd - Gradd 3 GTAGC (£25,584 – £26,409) – yn cynyddu i Gradd 5 GTAGC (£28,163 – £30,060)

Dyma gyfle cyffrous i ddechrau gyrfa ym maes caffael gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Yn eich gwaith fel Prentis Caffael, cewch brofiad ymarferol gwerthfawr ynghyd â hyfforddiant ffurfiol, gan ddatblygu dealltwriaeth gadarn o sut mae caffael yn cefnogi’r gwasanaethau brys ar y rheng flaen. Dyma swydd sydd wedi’i dylunio i roi cyfrifoldeb gwirioneddol i chi o’r cychwyn cyntaf, ac sy’n caniatáu i chi wneud cyfraniadau ystyrlon wrth i chi weithio tuag at ennill cymhwyster y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) – safon caffael a rheoli cadwyni cyflenwi sy’n cael ei barchu ar draws y byd.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac uchelgeisiol sy'n awyddus i ddysgu ac i gyfrannu at amgylchedd tîm cydweithredol. Dylech allu rhoi sylw i fanylion, gallu dilyn gweithdrefnau, a bod yn hyderus wrth weithio gyda data, gyda chyflenwyr, a chyda chydweithwyr ar draws y sefydliad. Yn anad dim, dylech fod yn frwd dros gael gyrfa broffesiynol ym maes caffael a chyflenwi, a thros wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cymuned.

Lleoliad y swydd yw ein Pencadlys ym Mharc Busnes Llanelwy, ond rydym hefyd yn cynnig y gallu i ymgymryd â gweithio hyblyg, lle gallwch weithio o gartref, yn amodol ar argaeledd, yn ogystal â bod ar gael i weithio o leoliadau eraill Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Gellir trafod hyn ymhellach yn ystod y cyfweliad.

Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad DBS a geirda boddhaol. Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad DBS a geirda boddhaol. Os derbynnir datgeliad cadarnhaol (wedi'i wario neu heb ei wario), bydd dull sy'n seiliedig ar risg o reoli'r wybodaeth yn cael ei fabwysiadu gan y Gwasanaeth ac yna gwneir penderfyniad rhesymol a chymesur ynghylch y gweithiwr presennol neu ddarpar gyflogai. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, 30ain Gorffennaf 2025

Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.

Apply for this job