Rheolwr Prosiect Digidol
Posting date: | 30 June 2025 |
---|---|
Salary: | £32,712 to £35,641 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 22 July 2025 |
Location: | Cymru, UK |
Remote working: | Hybrid - work remotely up to 5 days per week |
Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
Job type: | Temporary |
Job reference: |
Summary
Yn sgil llwyddiant cais Mudiad Meithrin am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2023, rydym wedi sefydlu sianel YouTube Dewin a Doti i greu amrywiaeth o fideos addysgiadol, amrywiol a llawn hwyl i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.
Arweinydd Prosiect Digidol - £32,712 - £35,641
Rydym yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig, a chreadigol i arwain y prosiect cyffrous hwn i barhau i gynhyrchu a datblygu cynnwys i sianel YouTube Dewin a Doti. Byddwch yn gweithio gyda staff, teuluoedd a chymunedau amrywiol ar hyd a lled Cymru i gyd-gynhyrchu fideos addysgiadol, amrywiol a hwyliog sy’n addas i blant bach a’u teuluoedd.
Prif Ddyletswyddau:
Byddwch yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Rheoli ac arwain y prosiect trwy ymgynghoriad rheolaidd gyda’r Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau
· Cyfrifoldeb am gydgordio a threfnu amserlen ffilmio, golygu a chynhyrchu fideos proffesiynol o safon uchel ar gyfer y prosiect
· Sicrhau fod cynnwys newydd ac apelgar yn cael ei rannu ar Sianel Youtube Gymunedol Dewin a Doti yn rheolaidd ac yn cael ei hyrwyddo’n eang ac yn gyson ar ein holl blatfformau digidol e.e. Instagram, Facebook ac yn ehangach e.e. trwy daflenni a.y.y.b.
· Cydweithio gyda tîm o staff y Mudiad a’r gymuned leol i adnabod lleoliadau a chymunedau addas i greu fideos amrywiol yn y lleoliad gan gyd-greu byrddau stori manwl ymlaen llaw gyda'r tîm ehangach
· Sicrhau bod y gwaith yn gweithredu yn erbyn yr amserlen ddisgwyliedig
· Creu astudiaethau achos o arferion da a dathlu llwyddiannau’r prosiect
· Rheoli a hyrwyddo rhaglen o hyfforddiant addas i uwchsgilio staff a gwirfoddolwyr sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin i gymryd rhan yn y prosiect
· Sicrhau fod holl ffurflenni caniatâd ar gael i fodloni gofynion diogelu data
· Cynnal archwiliadau o galedwedd a meddalwedd a chynorthwyo gyda chaffael offer newydd gan gynnwys y trwyddedau angenrheidiol
· Gweithredu fel Rheolwr Llinell i’r Uwch Swyddog Ffilmio a Golygu a’r Swyddog Marchnata Digidol
· Creu adroddiadau monitro chwarterol ar y prosiect
Gwaith Cyffredinol:
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal plant ac addysg Gymraeg a dilyniant i addysg Gymraeg
Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith
Mynychu cyfarfodydd tîm yn rheolaidd a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau neu Brif Weithredwr Mudiad Meithrin
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Proud member of the Disability Confident employer scheme