Menu

RHEOLWR SWYDDFA PORTFFOLIO

Job details
Posting date: 30 June 2025
Salary: £47,754 to £48,710 per year
Hours: Full time
Closing date: 21 July 2025
Location: Llantrisant, Pontyclun
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn chwilio am Reolwr Portffolio
deinamig a blaengar i arwain datblygiad a rheolaeth ein Swyddfa Rheoli Portffolio (SRhP).
Mae hwn yn gyfle unigryw i oruchwylio ystod eang o fentrau trawsnewid a gwella, gan
sicrhau cyd-fynd â'n nodau strategol a darparu gwerth gwirioneddol i'r cymunedau a
wasanaethwn. Byddwch yn dylunio ac yn ymgorffori fframweithiau arfer gorau, yn darparu
llywodraethu ac adrodd ar lefel uwch, ac yn cefnogi timau cyflawni ar draws y Gwasanaeth
— a hynny i gyd wrth hyrwyddo gwelliant parhaus ac arweinyddiaeth foesegol a
chynhwysol.
Gan arwain tîm medrus o weithwyr proffesiynol rhaglenni a phrosiectau, byddwch yn
gyrru cynllunio, blaenoriaethu a sicrwydd ar lefel portffolio. Bydd eich rôl yn cynnwys
cydweithio agos â chydweithwyr perfformiad, cynllunio a risg i sicrhau dull integredig
sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer newid. Rydym yn chwilio am arweinydd profedig gyda
chefndir cryf mewn SRhP neu lywodraethu portffolio mewn sefydliad cymhleth, profiad
o gyflawni trawsnewid ar raddfa fawr, ac angerdd dros arloesi a gwasanaeth
cyhoeddus. Mae cymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli rhaglenni, prosiectau neu
bortffolio yn ddymunol, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn gynhwysol.
Ymunwch â ni i wneud effaith ystyrlon yn un o wasanaethau cyhoeddus pwysicaf
Cymru.

Apply for this job