Teaching Assistant Level 2 – Penllwyn Primary School
| Posting date: | 20 June 2025 |
|---|---|
| Salary: | £24,404 per year, pro rata |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 23 June 2025 |
| Location: | Aberystwyth, Ceredigion |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: | REQ106073 |
Summary
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn eisiau erbyn Medi 2025
Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb dros dro am flwyddyn yn Ysgol Penllwyn. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Lleolir Ysgol Penllwyn ym mhentref Capel Bangor tu allan i Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.
Mae Ysgol Penllwyn yn ysgol gynradd fach weledig, hynod lwyddiannus, gyda 34 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r plant atom o bentrefi gweledig cyfagos.
Mae ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch wedi gweithio mewn partneriaeth o dan arweiniad yr un Pennaeth ers 2011, ac wedi ffederaleiddio o dan un Corff Llywodraethol ers 2019.
‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’ yw arwyddair ein partneriaeth. Anelwn at barchu hunaniaeth a natur unigryw’r naill ysgol yn ei chymuned, tra’n elwa ar yr hyn y mae ein partneriaeth yn cynnig i’n disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth
gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolyn, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth
derbyn hyfforddiant penodol er mwyn medru cynorthwyo’r unigolyn i gyrraedd ei lawn potensial yn addysgol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyraethau fel TRANDEP a Chyfri Ceredigion a.y.y.b.
annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes
annog a chymell disgyblion mewn modd bositif gan fedru cynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith.
Am sgwrs bellach neu i dderbyn mwy o fanylion am y swydd mae croeso i chi gysylltu â’r Dirprwy Bennaeth trwy e-bostio coryr1@hwbcymru.net neu ffonio 01970 88-227
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme