Menu

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Job details
Posting date: 18 June 2025
Salary: £15 per hour
Hours: Part time
Closing date: 02 July 2025
Location: Wrexham
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr Wrecsam 06.25

Apply for this job

Summary

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr
Raddfa tâl: £15 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion yn ein cyrsiau Gwnïo a Chelfyddydau Creadigol mewn lleoliadau ledled Wrecsam. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid. Byddai sgiliau gwnïo a/neu sgiliau celfyddyd greadigol yn fanteisiol.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i ymgeisio
Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Mercher 2il Gorffennaf 2025 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Apply for this job