Menu

Cynorthwyydd Bugeiliol

Job details
Posting date: 17 June 2025
Salary: Not specified
Additional salary information: Graddfa Cyflog 6 pro rata
Hours: Full time
Closing date: 30 June 2025
Location: Penlan, Swansea, SA5 7BU
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1493538

Apply for this job

Summary

Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwyydd i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.
Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â’r angerdd, y gallu neu’r profiad a’r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i’w dysgu.
Mae’r rolau newydd yma, sy’n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae’r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.Sut i Ymgeisio:
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Llun 30ain o Fehefin 2025
Cyflog: Graddfa Cyflog 6 Pro Rata amser tymor yn unig
Cytundeb: Dros dro cyfnod secondiad 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at: Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn: 30ain o Fehefin 2025 am 12.00y.hMae’r awdurdod yn unol â’r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae’r Awdurdod yn disgwyl i bawb o’r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Apply for this job