Menu

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Dyffryn Aeron

Job details
Posting date: 10 June 2025
Salary: £24,404 per year, pro rata
Hours: Full time
Closing date: 13 June 2025
Location: Lampeter, Ceredigion
Remote working: On-site only
Company: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Job type: Temporary
Job reference: REQ106074

Apply for this job

Summary

Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb blwyddyn, llawn amser yn Ysgol Dyffryn Aeron.

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.

Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu – Cefnogi a Chyflwyno Dysgu, Lefel 2.

Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Ysgol Dyffryn Aeron, a llywio ei llwyddiant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth
• gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion/grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth
• cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion a.y.y.b.
• annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes
• annog a chymhell disgyblion mewn modd bositif gan fedru cynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i’r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol

Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01570470650 neu Thomasn60@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job