Menu

Cynorthwy-ydd Dosbarth/Dysgu Gradd 3

Job details
Posting date: 03 June 2025
Salary: Not specified
Additional salary information: Graddfa 3 Pwyntiau 3-6 (pro rata 30.8 awr yr wyth
Hours: Full time
Closing date: 18 June 2025
Location: Ystum Taf, Cardiff, CF14 2JL
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1489559

Apply for this job

Summary

Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth / Dysgu (llawn amser) Graddfa 3 Pwyntiau 3-6 (pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos) Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swyddi llawn amser yn yr Adran Gynnal Dysgu. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm cynnal sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Adran Gynnal Dysgu yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy’n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi’r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda disgyblion hwyliog a chymdeithasol sydd yn gweithio ar lefelau is y cwricwlwm, ond sydd yn allblyg, brwdfrydig a chreadigol mewn cyd-destynau amrywiol. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo. Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw. Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y thu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol. Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans. Proses Ymgeisio Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Apply for this job