SWYDDOG CLEBRAN SIR Y FFLINT (SWYDDOG IAITH I LEOLIADAU SAESNEG NAS CYNHELIR)
Posting date: | 02 June 2025 |
---|---|
Salary: | £4,176 to £4,803 per year |
Hours: | Part time |
Closing date: | 15 June 2025 |
Location: | Sir y Fflint |
Remote working: | Fully remote |
Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
Job type: | Temporary |
Job reference: |
Summary
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont a Clebran am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Clebran:
· Cefnogi a chynorthwyo lleoliadau cyfrwng Saesneg yn rhithiol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Clebran’
· Darparu gwasanaeth rhithiol i gefnogi’r iaith Gymraeg yn y gweithle trwy gynllun ‘Clebran’ i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach
· Darparu hyfforddiant rhithiol trwy gyflwyno gweithdai dros Microsoft Teams pob hanner tymor
· Darparu cefnogaeth 1:1 dros Microsoft Teams gyda staff y meithrinfeydd rhwng y gweithdai
· Ymweld â lleoliadau yn ôl amserlen tymhorol
· Cytuno ar y cyd â staff y lleoliad ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
· Cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i gynorthwyo’r lleoliadau i ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r iaith Gymraeg
· Cynnal sgyrsiau rhithiol a /neu wyneb gyda staff y lleoliadau ynglŷn â manteision dwyieithrwydd
· Datblygu gweithdai thematig ychwanegol dan arweiniad Prif Swyddog a Rheolwr y cynllun
· Mynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu rhithiol yn ôl y galw
· Cydweithio’n agos gyda’r timoedd Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y siroedd perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth gyson, a darparu adroddiadau monitro tymhorol
· Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Proud member of the Disability Confident employer scheme