Teaching Assistant Level 3 - Ysgol Bro Teifi
Posting date: | 16 April 2025 |
---|---|
Salary: | £25,584 to £26,835 per year, pro rata |
Hours: | Full time |
Closing date: | 28 April 2025 |
Location: | Llandysul |
Remote working: | On-site only |
Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
Job type: | Temporary |
Job reference: | REQ105943 |
Summary
The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Math o gytundeb: 32.5 awr Tymor yn Unig tan Awst 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol fel cydlynydd sgiliau bywyd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cydlynu, trefnu a darparu cyfleoedd amgen i ddisgyblion y tu mewn a thu allan i’r dosbarth. Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn ymwneud â darparu cwricwlwm wedi ei addasu sy’n datblygu sgiliau bywyd carfan o ddisgyblion oed uwchradd yn bennaf. Mae’r Cwricwlwm Cynnydd a Sgiliau Bywyd yn gweithio ochr yn ochr a’r cwricwlwm prif lif er mwyn diwallu anghenion ein disgyblion yn llawn. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi ein egwyddorion craidd a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Manylion y swydd:
• Cynllunio a darparu cyfleoedd i ddisgyblion ADY i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig drwy brofiadau cyfoethog, bywyd go-iawn o fewn yr ysgol a thu allan.
• Gweithredu cyfleoedd dysgu ychwanegol drwy ddarparwyr allanol a’r gymuned leol.
• Targedu ymyraethau priodol i ddysgwyr penodol er mwyn sicrhau ymrwymiad at ddysgu.
I gynllunio a darparu ymyraethau penodol ar lefel 1:1 ac o fewn
• Grwpiau bach.
• Datblygu perthynas waith dda gyda dysgwyr a gweithredu fel mentor a model rôl iddynt.
• Cydweithio gyda thîm cynhwysiant ac athrawon yr ysgol i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Agorwyd Ysgol Bro Teifi yn Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mewn arolwg Estyn diweddar (Tachwedd 2024) nodwyd fod …’y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau..’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme