'Bartender'
Dyddiad hysbysebu: | 10 Mawrth 2025 |
---|---|
Cyflog: | £12.41 yr awr |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 09 Ebrill 2025 |
Lleoliad: | LL49 9NF |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Festiniog Railway Company |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Rydym yn edrych am ‘Bartenders’ ar gyfer ein bar arobryn CAMRA, Spooner's.
Gallwn gynnig i chi:
• £11.70 yr awr, yn cynyddu i £12.41 yr awr o’r 1af o Ebrill 2025
• Contract tymhorol rhwng 24ain o Mawrth i’r 31ain o Hydref 2025, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2026
• Llawn amser neu rhan amser / swyddi rhannu swydd ar gael
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys gwasanaethu cwsmeriaid wrth y bar, trin arian a chlirio byrddau. Mae Spooner’s yn gweithio fel tîm felly bydd disgwyl i ymgeiswyr helpu eu cydweithwyr sy’n gweithio ar gownter y caffi neu yn y gegin os oes angen. Mae profiad o weithio mewn bar prysur yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, gan y bydd hyfforddiant yn cael ei roi i'r ymgeisydd cywir.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd cyflym a chyffrous. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau dros ddyddiau, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, hyd at 40 awr yr wythnos dros 5 shifft.
Sgiliau Craidd:
• Profiad mewn rôl Blaen Tŷ
• Chwaraewr tim
• Sgiliau cyfathrebu da
• Y gallu i weithio’n lân ac yn daclus
• Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
• Byddai gwybodaeth sylfaenol am Reoli Seler yn fantais ond nid yw'n hanfodol
• Byddai diddordeb yn y diwydiant diodydd a gwybodaeth am Gwrw ‘Cask’, Gwin a Choctels yn fanteisiol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd, eu teithwyr a'r farchnad economaidd leol.
Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod yn 18 oed neu'n hŷn a bod â'r hawl i weithio yn y DU.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd