Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Y Stesion Caernarfon Cynorthwywyr Tîm

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 10 Mawrth 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 09 Ebrill 2025
Lleoliad: LL55 2PF
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Festiniog Railway Company
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Crynodeb

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ac yn atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. Mae ein gwasanaeth, sydd wedi'i anelu at y farchnad dwristiaeth, yn sefyll allan fel y gorau yn y diwydiant. Mae adeilad ein gorsaf yng Nghaernarfon yn rhoi cyfle cyffrous i ddarparu cyfleusterau o'r radd uchaf i'n hymwelwyr. Rydym nawr yn edrych am dîm i redeg yr orsaf yn 2025.

Rydym yn edrych am bobl brwdfrydig i gynorthwyo gyda'r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn yr Orsaf, gan gynnwys gwasanaethu yn y Caffi, Swyddfa Siop a Thocynnau ac cyflwyno digwyddiadau. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu'r cyfleuster hwn i fewn i gaffi, lleoliad manwerthu a digwyddiadau deinamig, llewyrchus; gan greu canolbwynt bywiog i ymwelwyr y rheilffyrdd a'r gymuned leol.

Gallwn gynnig i chi:

• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol rhwng 24ain o Mawrth i’r 31ain o Hydref 2025, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu i'r ymgeisydd, benwythnosau a gwyliau ysgol
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd i weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Mae'r gallu i ysgrifennu a sgwrsio yn Gymraeg felly yn hynod o ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Bydd disgwyl i chi ymgymryd ag unrhyw a phob tasg yn yr orsaf yn ôl y gofyn felly mae angen parodrwydd i weithio'n hyblyg.

Sgiliau Craidd:
• Brwdfrydedd i weithio yn y diwydiant lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Lefelau da o rifedd, llythrennedd a sgiliau TG
• Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
• Chwaraewr tîm da gyda pharodrwydd a brwdfrydedd i ymuno â digwyddiadau ac i fod yn hyblyg ac yn addasadwy i unrhyw dasg a osodir
• Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn fantais
• Byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd, eu teithwyr a'r ardal leol o fantais.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.