Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref

Job details
Posting date: 27 January 2025
Salary: £26,835 to £27,711 per year
Hours: Full time
Closing date: 10 February 2025
Location: Wrexham, Wales
Remote working: Hybrid - work remotely up to 1 day per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Summary

GWEITHIWR CEFNOGI DIOGELWCH YN Y CARTREF

Adran Diogelwch Tân – Glannau Dyfrdwy neu Wrecsam
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Graddfa GTAGC 04 £26,835 - £27,711 y flwyddyn

Rydym am benodi Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref i ymuno â’n tîm Diogelwch Tân Cymunedol yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i ddarparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth i atal tanau a marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig. Gan weithio gyda chymunedau Gogledd Cymru, mae Gweithwyr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref yn rhoi cyngor ac arweiniad, yn ogystal a gosod offer diogelwch tân addas yng nghartrefi grwpiau targed a nodwyd i gyfrannu at eu hiechyd, diogelwch a lles. O fewn eu meysydd cyfrifoldeb byddant hefyd yn mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau ymwybyddiaeth diogelwch tân ac ymgyrchoedd diogelwch.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (i lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gan feddu ar gymeriad agored ac agos-atoch, bydd yr ymgeiswyr yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cael eu hysgogi i helpu eraill, yn enwedig pobl agored i niwed o fewn y grŵp targed a nodwyd, i gadw’n ddiogel ac yn iach mewn ffordd barchus a chyfrinachol.

Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod gofyn iddynt weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar achlysuron prin, ar ôl i’r nail ochr a’r llall gytuno.

Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS Ehangach a geirdaon boddhaol. I cael mwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi 12:00 ar 10fed Chwefror, 2025

Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.