Menu

Cyfrifydd Ariannol

Job details
Posting date: 04 October 2024
Salary: £42,403.00 to £43,421.00 per year
Hours: Full time
Closing date: 25 October 2024
Location: Llantrisant, Pontyclun
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: 007803

Apply for this job

Summary

GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU

Cyfrifydd Ariannol

RHIF CYF: NU124

GRADD 14
Parhaol

Cyflog: £42,403 - £43,421

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw un o’r Gwasanaethau Tân ac Achub mwyaf yn y DU sy’n gwasanaethu dros 1.5 miliwn o bobl ar draws 10 Awdurdod Unedol Cyfansoddol sy’n ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr i Drefynwy ac o Fae Caerdydd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr adran Cyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân. Rydym yn chwilio am Gyfrifydd Ariannol i ymuno â'n tîm bywiog a chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein strategaeth ariannol a chynnal rheolaeth ariannol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod cymwysedig gyda CCAB cymwys e.e. CIPFA, CIMA, ACCA neu gyfwerth a bod yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar y gyllideb gyfalaf flynyddol, h.y. £19 miliwn ar gyfer 2024/25, a chwaraewr allweddol wrth baratoi’r datganiad cyfrifon blynyddol. Mae arbenigedd ym meysydd rheoli cyllideb a rheolaeth ariannol yn hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi gwneud penderfyniadau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad a gwelliant parhaus y prosesau a'r systemau cyfrifeg sydd eu hangen i addasu i amgylchedd sector cyhoeddus sy'n newid yn barhaus.

Mae galluoedd dadansoddi a datrys problemau cryf yn hanfodol yn ogystal ag etheg tîm brwd i gefnogi gwaith y tîm cyllid, rhanddeiliaid ac uwch arweinwyr.

Yr oriau gwaith yn gyffredinol fydd 37 awr yr wythnos ac mae'r Gwasanaeth yn cynnig ystod o fuddion fel rhan o'i becyn cyflogaeth.

• Trefniadau gweithio hyblyg
• System hyblyg
• Campfa a chyfleusterau lles am ddim
• Parcio am ddim
• Polisïau ystyriol o deuluoedd

Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.

Efallai y bydd y rôl hon yn gofyn am deithio rhwng safleoedd ledled De Cymru ac felly mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.

Ceir rhagor o fanylion am y swydd hon yn y Disgrifiad Swydd a'r Manyleb Person. Os oes unrhyw ymholiadau ychwanegol gyda chi, mae croeso i chi gysylltu â'r Rheolwr Llinell, Jen Sambell drwy law e-bost j-sambell@decymru-tan.gov.uk.

Sut i ymgeisio

Gellir lawr lwytho Ffurflen Gais, Manyleb Person a Swydd-Ddisgrifiad o dudalenau Gyrfaoedd ein gwefan www.decymru-tan.gov.uk.

Dylid dychwelyd Ffurflenni Cais gorffenedig at:-
Y Tîm Recriwtio ac Asesu, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant CF72 8LX.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 25/10/2024


Manylion Ychwanegol
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir unrhyw benodiad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn destun gwiriad boddhaol gan y DBS/ Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr Alban.

Rydym yn sefydliad sy'n ystyriol o deuluoedd a bydd polisi gweithio'n hyblyg mewn grym.

Secondiadau Staff Corfforaethol
Petaech chi’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad, cyfeiriwch at GS-02.034 ‘Gweithdrefnau Secondiad’ a chwblhewch Ffurflen P62 a fydd angen ei hawdurdodi gan eich rheolwr llinell cyfredol.

Ymgeiswyr y System Ddyletswydd Ran Amser
A fyddwch cystal â chymryd oriau eich argaeledd i ystyriaeth wrth ymgeisio ar gyfer y swydd wag hon a thrafodwch unrhyw gwestiynau ynglŷn ag argaeledd â'ch Rheolwr Gorsaf.

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg. Ni chaiff ffurflenni cais a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym yn dymuno annog yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector cymdeithas i ymgeisio.

Apply for this job