Cynorthwyydd Cymorth Busnes – Diogelwch Tân.
Posting date: | 18 September 2024 |
---|---|
Salary: | £25,545 to £26,421 per year, pro rata |
Hours: | Part time |
Closing date: | 26 September 2024 |
Location: | Colwyn Bay, Conwy County |
Remote working: | On-site only |
Company: | North Wales Fire and Rescue Service |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Cynorthwyydd Cymorth Busnes – Diogelwch Tân
Swyddfa Diogelwch Tân – Swyddfa Ardal Conwy / Gweithio Hyblyg
Parhaol, 14.8 awr yr wythnos
GTAGC Gradd 04 £25,545 i £26,421 y flwyddyn pro rata
Gan ddarparu cymorth gweinyddol i'r timau Diogelwch Tân Cymunedol a Busnes yn ardal Conwy a Sir Ddinbych, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau llafar ac ysgrifenedig i'r adran. Mae hyn yn cynnwys derbyn atgyfeiriadau cyfrinachol gan aelodau o'r cyhoedd, asiantaethau partner neu sefydliadau allanol a rhoi'r wybodaeth yn gywir yn y system rheoli cofnodion. Byddwch yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, cymryd nodiadau a pharatoi agendâu a nodiadau ar gyfer cyfarfodydd. Bydd eich dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn cynnwys teipio llythyrau ac adroddiadau, cynhyrchu ystadegau o'r systemau rheoli cofnodion, gwaith ffeilio a chefnogi'r timau yn ôl yr angen.
Bydd gofyn i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da, profiad o drefnu a chefnogi cyfarfodydd a pharodrwydd i helpu eraill. Gan feddu ar sgiliau trefnu da i reoli eich llwyth gwaith a chadw at derfynau amser, bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid wrth ddelio â cheisiadau wrth iddyn nhw godi. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac ar eich menter eich hun.
Fel sefydliad dwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (Lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r tîm wedi ei leoli ym Mae Colwyn ond bydd y rôl hefyd yn darparu cefnogaeth reolaidd i'n tîm Diogelwch Tân arall ac felly efallai y bydd angen teithio i'r swyddfeydd Diogelwch Tân eraill hyn yn ardal y Gwasanaeth.
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS safonol a geirdaon boddhaol. I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw hanner dydd ar 26/09/2024
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau.