Menu

Tiwtoriaid Gwaith Ieuenctid

Job details
Posting date: 10 September 2024
Salary: £29.16 to £29.16 per hour
Hours: Part time
Closing date: 23 September 2024
Location: Wrexham, Wales
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Tiwtoriaid Gwaith Ieuenctid Medi 2024

Apply for this job

Summary

Tiwtoriaid Gwaith Ieuenctid

Raddfa tâl: £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau) 
Gogledd Cymru
Yn ogystal â phecyn buddion hael  

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i ddarparu cyrsiau Gwaith Ieuenctid i ddysgwyr ar draws ardal Gogledd Cymru. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.

Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru. Sylwch na fydd CV heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn dderbyniol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9.00yb Dydd Llun 23ain Medi 2024.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. 

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. 

Apply for this job