Menu

Gweinyddwr Gwasanaethau Dysgwyr

Job details
Posting date: 10 September 2024
Salary: £22,464 to £26,726 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 23 September 2024
Location: Cardiff, Cardiff County
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Permanent
Job reference: Gweinyddwr Gwasanaethau Dysgwyr Medi 24

Apply for this job

Summary

Gweinyddwr Gwasanaethau Dysgwyr 

Rhan Amser, 17.5 awr yr wythnos
Parhaol
Graddfa Gyflog £22,464 - £ 26,726 pro rata y flwyddyn

Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i Weinyddwr ymuno â’n tîm Gwasanaethau Dysgwyr yng Nghaerdydd.  

Prif bwrpas rôl Gweinyddwr Gwasanaethau Dysgwyr yw cefnogi’r Rheolwr Gwasanaethau Dysgwyr a’r tîm, gan ddarparu cefnogaeth weinyddol ym mhob agwedd o swyddogaethau’r adran i sicrhau bod gwasanaeth di-dor yn cael ei ddarparu i ddysgwyr, ynghyd â chefnogi cydweithwyr i ddeall y gwasanaethau y gellir eu darparu neu eu roi ar waith ar gyfer ein dysgwyr.

Mae rôl y Gweinyddwr Gwasanaethau Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle rydych chi'n gweithredu'n gyflym, yn annibynnol a gyda chefnogaeth gan dîm sefydledig. 

Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni. 

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru. Sylwch na fydd CV heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn dderbyniol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9.00yb Dydd Llun 23ain Medi 2024.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. 

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. 

Apply for this job