Menu

Diffoddwr Tân Ar-Alwad

Job details
Posting date: 26 June 2024
Salary: Not specified
Additional salary information: https://www.decymru-tan.gov.uk/app/uploads/2023/06/3989-Payscales-2022_welsh.jpg
Hours: Full time
Closing date: 26 July 2024
Location: Various stations in the South Wales area
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: OCFF

Apply for this job

Summary

Yn Ne Cymru, mae bron hanner o’n gweithlu gweithredol yn Diffoddwyr Tân Ar-Alwad a leolir fel arfer o fewn cymunedau gwledig, mewn trefi bach a phentrefi.

Ewch i ein Tudalen Yr Un Sgiliau, Rolau Gwahanol i ddarganfod mwy ac i gwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb.

Yn debyg i’r Diffoddwyr Tân System Ddyletswydd Gyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, ac argyfyngau naturiol eraill. Mae hefyd gofyn iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau Diogelwch a Lles mewn cartrefi pobl.

Mae rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar-Alwad fyw neu weithio o fewn y gymuned Leol. Maent yn hanu o bob cefndir. Gall fod yn adeiladwyr, ymgynghorwyr, rhieni sy’n aros gartref, gweinyddwyr, gweithwyr ffatri, gofalwyr, myfyrwyr neu bobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Y rhain yw’r bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaethau Tân ac Achub gan ennill cyflog yr un pryd.

Mae’r holl Diffoddwyr Tân Ar-Alwad â ‘rhybuddiwr’ bob amser tra eu bod ar ddyletswydd, fel bod modd iddynt ymateb i’w Gorsafoedd pan fydd angen, o fewn amser penodol o gael galwad. Gallant ymateb i alwadau brys o’u cartrefi yn ystod oriau hamdden neu, mewn rhai achosion, o’u gweithle os bydd eu cyflogwr yn caniatáu.

Gofynnir i bob Diffoddwyr Tân Ar-Alwad ymroi i nifer penodol o oriau gweithredu a mynychu sesiwn hyfforddiant fin nos bob wythnos (sef noson ymarfer).

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a hysbysebir manylion pob ymgyrch recriwtio ar y dudalen hon.

Rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 17 a 6 mis oed ar ddyddiad y cais ac o leiaf 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân i fod yn gymwys.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn y gorsafoedd isod. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn pobl sy’n gallu ymroi oriau rhwng 9yb a 5yp, rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener.

Gorsafoedd Ar-Alwad sy’n Recriwtio:

Pen-y-bont ar Ogwr:
Mynydd Cynffig
Maesteg
Bro Ogwr
Pencoed
Pontycymer
Porthcawl
Rhondda Cynon Taf:

Treorci
Gilfach Goch
Pontyclun
Pontypridd
Hirwaun
Abercynon
Aberdâr
Glyn Rhedynog
Tonypandy

Bro Morgannwg:
Y Bontfaen
Llanilltud Fawr
Y Barri

Caerffili:
Aberbargoed
Caerffili
Rhymni
Abercarn
Rhisga

Merthyr Tudful:
Treharris
Blaenau Gwent:
Abertyleri
Brynmawr
Tredegar

Torfaen:
Abersychan
Blaenafon

Sir Fynwy:
Y Fenni
Brynbuga
Casgwent
Cil-y-coed
Trefynwy

Apply for this job