Menu

Tiwtoriaid Celf a Chrefft

Job details
Posting date: 24 May 2024
Salary: £29.16 to £29.16 per hour
Hours: Part time
Closing date: 23 June 2024
Location: Denbigh, Denbighshire
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference:

Apply for this job

Summary

Tiwtoriaid Celf a Chrefft
Lleoliadau: Gwynedd, Ynys Mon a Sir Ddinbych
Cyflog: Tâl fesul awr - £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Cytndeb Cyfnod Penodol - Blwyddyn Academaidd
Oriau amrywiol

Trosolwg Rôl:
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid Celf a Chrefft cymwysedig a medrus i gyflwyno i ddysgwyr yn ardaloedd Gwynedd, Ynys Mon a Sir Ddinbych. Byddwch yn cynllunio, paratoi a darparu cyrsiau a rhaglenni addysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau ansawdd. Byddwch yn darparu addysg o ansawdd uchel gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac asesu a fo’n briodol ac yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y cyrff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau eich bod yn darparu adborth clir ac adeiladol o fewn amserlen briodol.


Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
• £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
• Oriau hyblyg
• Cynllun Pensiwn Athrawon
• Datblygiad Proffesiynol Parhaus


Sut i ymgeisio:
Ymgwiswch drwy ffurflen gais ar gael ar https://www.adultlearning.wales/cym/swyddi Nodwch nid yw CV yn dderbynniol,
Dyddiad cau ar gyfer y swyddi uchod yw Dydd Gwener 5ed Gorffennaf 2024

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Apply for this job