Menu

Tiwtoriaid Cwnsela

Job details
Posting date: 16 May 2024
Salary: £29.16 to £29.16 per hour
Hours: Part time
Closing date: 15 June 2024
Location: Cardiff, Cardiff County
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Tiwtoriaid Cwnsela Mai 24

Apply for this job

Summary

Tiwtoriaid Cwnsela

Raddfa tâl: £29.16 yr awr

Cytundeb Cyfnod Penodol (adolygu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd)

Lleoliadau ar draws Cymru

Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael


Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Cwnsela CPCAB i ddysgwyr yn ardaloedd ar draws Cymru. Byddwch yn cynllunio, paratoi a darparu cyrsiau a rhaglenni addysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau ansawdd. Rydym yn edrych am Diwtoriaid I gyflwyno cyrsiau Cwnsela ar lefel 2, 3 a 4. Gweler rhagor o wybodaeth am ofynion hanfodol y rôlau hyn ym manyleb bersonol o fewn y pecynnau cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

£29.16 yr awr
Oriau hyblyg
Cynllun Pensiwn Athrawon
Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Llun 17eg Mehefin 2024 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar wefan y cwmni - nodwch na d ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Apply for this job