Menu

Derbynnydd Cymorth Gweinyddol/ Gweithredwr Prosesydd Geiriau

Job details
Posting date: 15 May 2024
Salary: £24,294.00 to £24,702.00 per year
Hours: Full time
Closing date: 05 June 2024
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Temporary
Job reference: 007125

Apply for this job

Summary

Derbynnydd Cymorth Gweinyddol/ Gweithredwr Prosesydd Geiriau

Cytundeb Cyfnod Penodol Cychwynnol o 12 mis
Llawn Amser – 37 awr
Gradd 5
Cyflog: £24,294 – £24,702 y flwyddyn


Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw un o Wasanaethau Tân ac Achub mwyaf blaenllaw'r DU a'r mwyaf o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru. Mae ardal ein Gwasanaeth yn ymestyn o Gas-gwent yn y Dwyrain i Bort Talbot yn y Gorllewin ac o arfordir y De i Fannau Brycheiniog yn y Gogledd. Rydym yn gweithredu o 47 o Orsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth ac mae ein Pencadlys yn Llantrisant.

Mae swydd fel Derbynnydd Cymorth Gweinyddol/ Gweithredwr Prosesydd Geiriau wedi codi o fewn ein Hadran Cymorth Busnes yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Lleolir y rôl yn ein Pencadlys yn Llantrisant ac mae am 37 awr yr wythnos.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i'r Goruchwyliwr Gweinyddol a phob cyfarwyddiaeth ar draws y sefydliad. Bydd prif gyfrifoldebau’r rôl o ddydd i ddydd yn cynnwys monitro mewnflychau e-bost, llungopïo, sganio, lanlwytho dogfennau i wefan a mewnrwyd y Gwasanaeth, gweithio gyda systemau ffeilio a chronfeydd data, ateb galwadau ffôn a mewnbynnu data’n gywir. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflenwi yn y Dderbynfa yn ôl y gofyn, a bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau switsfwrdd a chasglu ac anfon post ar draws y sefydliad.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes (neu gymhwyster cyfwerth) yn ogystal â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol.

Mae'r iaith Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad a chymwysterau priodol yn unol ag amlinelliad y Fanyleb Person. Mae penodiad ar gyfer y rôl hon yn amodol ar gyflawni gwiriad Manwl y Rhestr(au)
Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Cyn y gwneir unrhyw gynigion ffurfiol bydd yn ofynnol i yr ymgeiswr llwyddiannus gael Prawf Cyffuriau ac Alcohol.

Rydym yn sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae system gweithio hyblyg ar waith.

A fyddwch cystal â nodi fod hon yn broses gystadleuol iawn a dim ond y rhai hynny sydd wedi arddangos tystiolaeth lawn yn erbyn pob un o feini prawf hanfodol y fanyleb person bydd yn camu ymlaen i'r Broses Ddethol.

Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac rydym yn croesawu cyfathrebu yn y ddwy iaith. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam Llunio Rhestr Fer yn cael cyfle i gadarnha,u eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar a chwestiynau cyfweliad). Bydd y trefniadau'n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gellir darparu gwasanaeth Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd.

Dylid llenwi Ffurflenni Cais ar-lein trwy ein system e-recriwtio, y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan: https://www.decymru-tan.gov.uk/gweithio-i-ni/swyddi-gwag-diweddaraf/
Os oes angen fersiwn papur, e-bostiwch: personel@decymru-tan.gov.uk

Dylai pob ymgeisydd mewnol wneud cais trwy eu porth CORE, gan ddewis “Swyddi Gwag Cyfredol” o'r tab ar y chwith.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 05/06/2024 at 12:00 hanner dydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym yn dymuno annog yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector cymdeithas i ymgeisio.

Apply for this job