Rheolwr Seilwaith
Posting date: | 19 April 2024 |
---|---|
Salary: | £45,000 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 19 May 2024 |
Location: | LL48 6HF |
Remote working: | On-site only |
Company: | Festiniog Railway Company |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog i'w drafod, yn y cyffiniau o £45k y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad
• O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys pob gwyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y Cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Tâl salwch uwch y cwmni
• Gostyngiadau staff a buddion teithio ar RhFfE, ac ar y rheilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd a oedd yn eu lle ar adeg cyflogaeth.
Mae hon yn swydd lawn amser, barhaol, wedi'i lleoli yn ein Depo Isadeiledd ym Minffordd, Penrhyndeudraeth.
Fel un o brif Reilffyrdd Treftadaeth y DU mae gennym ni gynlluniau mawr i sicrhau bod ein rheilffordd yn gynaliadwy am flynyddoedd i ddod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r Uwch Dîm Rheoli gyda chyfrifoldeb uniongyrchol am Isadeiledd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gyda chyfrifoldeb cyffredinol am reoli’r timau adrannol canlynol:
• Ffordd Barhaol
• Signalau a Thelathrebu
• Adeiladau, Adeileddau a Chloddweithiau
• Clirio Ymyl y Llinell
• Technoleg Gwybodaeth
Mae’r Rheolwr Seilwaith yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gynnal a chadw ein hasedau o ddydd i ddydd a chynllunio a chyflawni ein ‘Rhaglen Gwaith Gaeaf’ flynyddol. Cynhelir y rhaglen flynyddol hon bob gaeaf dros gyfnod o 20 wythnos, tra bod y rheilffordd ar gau i draffig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn aelod allweddol o’r tîm sy’n cynllunio ac yn goruchwylio Gwaith Prosiect Datblygu Cyfalaf y rheilffordd, sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar wella ein cyfleusterau yn ein gweithdai yn Boston Lodge a Dinas. Byddwch hefyd yn gyfrifol am arwain datblygiad cymhwysedd ein tîm o staff cyflogedig a gwirfoddol yn yr Adran Seilwaith. Gan weithio ar y cyd â’n Gweithiwr Diogelwch Proffesiynol, bydd disgwyl i chi weithio ar raglen o welliant diogelwch parhaus sy’n flaengar ac yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
Sgiliau Craidd:
• Profiad helaeth a phrofedig o seilwaith rheilffyrdd
• Addysg hyd at lefel gradd mewn pwnc perthnasol, neu brofiad proffesiynol cyfatebol
• Profiad o reoli lefel uwch
• Sgiliau cyfathrebu, arwain a rhyngbersonol rhagorol
• Profiad o reoli cyllideb sylweddol
• Cwbl gymwys yn y defnydd o TG
• Byddai aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol o fantais
• Bydd y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU. Nid yw Cwmni Rheilffordd Festiniog yn gallu cynnig nawdd i geisiadau Visa.
Proud member of the Disability Confident employer scheme