Swyddog Disgyblu a Chŵynion
Posting date: | 19 April 2024 |
---|---|
Salary: | £40,221 to £43,421 per year, pro rata |
Hours: | Part time |
Closing date: | 07 May 2024 |
Location: | St. Asaph, Denbighshire |
Remote working: | Hybrid - work remotely up to 3 days per week |
Company: | North Wales Fire and Rescue Service |
Job type: | Contract |
Job reference: |
Summary
SWYDDOG DISGYBLU A CHŴYNION
Uned Adnoddau Dynol a Chefnogi Busnes
Contract cyfnod penodol o 6 mis (i'w adolygu),
22.2 awr (3 diwrnod) yr wythnos (i'w adolygu)
Gradd GTAGC 09 £40,221 i £43,421 y flwyddyn (pro rata)
Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Disgyblu a Chŵynion i ymuno â'r Uned Adnoddau Dynol a Chefnogi Busnes yn y Pencadlys yn Llanelwy (gyda rhywfaint o weithio ystwyth os gofynnir amdano).
Drwy gynnal ymchwiliadau trylwyr, effeithlon a theg, byddwch yn gyfrifol am ddarparu adroddiadau manwl, diduedd i gefnogi penderfyniadau rheolwyr mewn perthynas â materion disgyblu a chŵynion. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth a data, cynnal cyfweliadau a chadw cofnodion cyfrinachol cywir. Byddwch yn gyfrifol am baratoi dogfennaeth ar gyfer gwrandawiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen, a’u cyflwyno yn y gwrandawiadau. Bydd y dyletswyddau gweinyddol cysylltiedig yn cynnwys drafftio llythyrau, paratoi datganiadau ac adroddiadau.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau cyflwyno da, gyda phrofiad o gyfweld ac â'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth, crynhoi manylion a chyflwyno adroddiadau ffurfiol. Bydd gennych wybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth berthnasol ac arfer da a sgiliau trefnu rhagorol i reoli eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid er mwyn delio â cheisiadau wrth iddyn nhw godi a bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Sylwch fod y swydd hon yn destun Gwiriad DBS a geirdaon boddhaol. I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: hrdesk@northwalesfire.gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 07/05/2024
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau.