Cynorthwyydd Meithrinfa Medra Nursery Assistant
Posting date: | 17 April 2024 |
---|---|
Salary: | £11.44 to £12.04 per hour |
Hours: | Full time |
Closing date: | 01 May 2024 |
Location: | Llangefni, Isle Of Anglesey |
Remote working: | On-site only |
Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin – rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant.
Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Dilyn arweiniad a chyfarwyddiadau’r Arweinydd Ystafell i;
· Gyflawni unrhyw dargedau a osodir i’r ystafell
· Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa
· Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf
· Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
· Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu cysgu yn ôl ei anghenion
· Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
· Croesawu rhieni i’r Feithrinfa
· Cynnig adroddiad dyddiol i rieni yr hyn a gyflawnwyd gan y plant yn ystod y dydd
· Cwblhau taflen dyddiol y plentyn
· Arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd a’u datblygiad
· Sicrhau bod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
· Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael gymryd rhan yn yr holl weithgareddau
· Cefnogi holl weithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol
· Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd gan ddilyn y Dull Trochi
· Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
· Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi’r Feithrinfa
· Cydweithio i weithredu’r Cwricwlwm Newydd
· Mynychu cyfarfodydd rheolaidd
· Mynychu hyfforddiant yn ōl yr angen
· Cefnogi gweithgareddau codi arian y Feithrinfa
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa / Rheolwr MCC
Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen yma https://meithrin.cymru/jobs/cynorthwyydd-meithrinfa-medra3/
Proud member of the Disability Confident employer scheme