Menu

Tiwtoriaid Rhifedd

Job details
Posting date: 17 April 2024
Salary: £29.16 to £29.16 per hour
Hours: Part time
Closing date: 17 May 2024
Location: Llandovery, Carmarthenshire
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Tiwtoriaid Rhifedd Sir Gaerfyrddin 04.24

Apply for this job

Summary

Tiwtoriaid Rhifedd
Raddfa tâl: £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Sir Gaerfyrddin
Yn ogystal â phecyn buddion hael

Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Rhifedd i ddysgwyr ledled sir Gaerfyrddin, drwy'r prosiect Multiply. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

- Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.

- Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda, y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio a darparu sesiynau ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Mae Multiply yn brosiect a ariennir gan y llywodraeth i roi cymorth i oedolion wella eu sgiliau rhifedd, gan ddarparu cyrsiau am ddim i oedolion heb radd C TGAU mewn Mathemateg neu gyfwerth. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy Multiply in Scotland, Wales and Northern Ireland - GOV.UK (www.gov.uk)

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Mercher 29ain Mai 2024 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Apply for this job