Hysbysebu eich swyddi
Defnyddiwch y Gwasanaeth Cyflogwr os ydych yn gyflogwr yn y DU ac yr hoffech hysbysebu swyddi gwag ar wefan Dod o hyd i Swydd.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i:
- ychwanegu eich cwmni
- postio hysbysebion swydd i'n cynulleidfa o geiswyr gwaith y DU
- gofyn am gyngor a chymorth recriwtio i'ch helpu i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir ar gyfer eich busnes
- rheoli defnyddwyr eich cwmni
Os nad ydych yn barod i hysbysebu swydd wag ar hyn o bryd neu os ydych angen cyngor pellach, cysylltwch â'n Llinell Gwasanaethau i Gyflogwyr. Bydd un o'n Hymgynghorwyr Cyflogwyr proffesiynol yn cysylltu â chi i drafod ein gwasanaeth a sut y gallwn wneud eich recriwtio yn rhwyddach.
Cyn i chi ddechrau
I ddechrau postio eich swyddi gwag, mae angen i chi greu cyfrif cwmni. I wneud hyn, byddwch angen gwybod manylion eich cwmni:
- enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- amcangyfrif y nifer o weithwyr
- statws cofrestru Hyderus o ran Anabledd
Eisoes â chyfrif? Mewngofnodi
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os oes angen help arnoch i gofrestru neu bostio'ch swyddi gwag, cyfeiriwch at dudalen Help a chyngor cyflogwr.