Assistant Ecologist
| Posting date: | 14 May 2026 |
|---|---|
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 28 May 2026 |
| Location: | Conwy County, Wales |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 1 day per week |
| Company: | Conwy County Borough Council |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: | REQ007194 |
Summary
A hoffech chi roi’ch arbenigedd ecolegol ar waith i wneud gwahaniaeth go iawn ar lawr gwlad?
Ymunwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu i hybu adferiad byd natur yn un o dirweddau mwyaf amrywiol gogledd Cymru – sy’n cynnwys arfordir, gwlypdir, trefi, afonydd ac ucheldiroedd.
Rydym yn chwilio am Ecolegydd Cynorthwyol brwdfrydig a fydd yn chwarae rhan allweddol mewn amddiffyn a gwella bioamrywiaeth, hybu datblygiadau cynaliadwy a gwreiddio adferiad natur yn holl gynlluniau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor.
Ynglŷn â’r swydd
Fel Ecolegydd Cynorthwyol, byddwch yn ymgynghorai ecolegol arbenigol a fydd yn rhoi cyngor proffesiynol ynglŷn â cheisiadau cynllunio (Cynllunio Gwlad a Thref), Draenio Cynaliadwy a Chyrsiau Dŵr Cyffredin.
Byddwch hefyd yn hwyluso a chyflawni gwaith adfer natur ledled y Fwrdeistref Sirol; cynnal a chomisiynu arolygon o gynefinoedd a rhywogaethau; drafftio ac adolygu Asesiadau’r Rheoliadau Cynefinoedd; cyfrannu at bolisïau a strategaethau, gan gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol; gweithio’n agos â wardeiniaid cefn gwlad, timau rheoli perygl llifogydd, swyddogion coed a gwasanaethau Mannau Agored; cefnogi gwirfoddolwyr bioamrywiaeth; rheoli data ynglŷn â bioamrywiaeth gyda mapiau GIS a llunio adroddiadau, astudiaethau achos, ceisiadau am drwyddedau a deunydd ecolegol i’r cyhoedd.
Beth rydym ni’n chwilio amdano
Bydd gennych radd mewn disgyblaeth amgylcheddol neu ecolegol, gwybodaeth drylwyr am ddeddfwriaeth amgylcheddol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, profiad o arolygu a monitro cynefinoedd a rhywogaethau, sgiliau trefnu rhagorol ac yn medru gweithio ar eich liwt eich hun a gydag eraill.
Pam gweithio i Gonwy?
Cewch gyfle i amddiffyn a gwella bioamrywiaeth ar raddfa eang, gweithio mewn tîm cefnogol sy’n ymrwymo i adferiad natur a gwytnwch rhag yr hinsawdd, yn elwa ar weithio’n hyblyg a hybrid, a gweld eich gwaith yn cael dylanwad uniongyrchol ar leoedd, polisïau a phrosiectau.
Gwnewch gais heddiw
Os ydych chi’n frwd am ecoleg a gwasanaeth cyhoeddus ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gweledol yn eich gwaith, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Kate Surry, Rheolwr Adfer Natur Cynorthwyol, 01492 575337, erf@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella
Do you want your ecological expertise to make a real difference on the ground?
Join Conwy County Borough Council and help shape nature recovery across one of North Wales’ most diverse landscapes – from coastline and wetlands to towns, rivers and uplands.
We’re looking for an enthusiastic Assistant Ecologist to play a key role in protecting and enhancing biodiversity, supporting sustainable development, and embedding nature recovery across council plans, projects and partnerships.
About the role
As Assistant Ecologist, you’ll act as a specialist ecological consultee, providing professional advice on planning applications (Town & Country Planning), Sustainable Urban Drainage (SAB), and Ordinary Watercourse consents.
You’ll also support and deliver nature recovery action across the County Borough; carry out and commission habitat and species surveys; draft and assess Habitats Regulations Assessments; contribute to policy and strategy including the Local Development Plan; work closely with countryside wardens, flood risk teams, tree officers and Open Spaces services; support biodiversity volunteers; manage biodiversity data using GIS; and write reports, case studies, licence applications and ecological content for public communication.
What we’re looking for
You will have a degree in an environmental or ecological discipline, strong knowledge of UK and Welsh environmental legislation, experience of habitat and species survey and monitoring, excellent organisational skills, and the ability to work both independently and collaboratively.
Why work for Conwy?
You’ll have the chance to protect and enhance biodiversity at scale, work within a supportive team committed to nature recovery and climate resilience, benefit from flexible hybrid working, and see your work directly influence places, policies and projects.
Apply now
If you’re passionate about ecology, motivated by public service, and keen to see your work make a visible difference, we’d love to hear from you.
Manager details for informal discussion: Kate Surry, Assistant Manager Nature Recovery, 01492 575337, erf@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme