Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, 2026
| Dyddiad hysbysebu: | 02 Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £27,747 i £29,649 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 15 Rhagfyr 2025 |
| Lleoliad: | Powys, Wales |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Dyfed-Powys Police |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
SCCH
Maes Busnes / Adran
Plismona Cymdogaethau ac Atal
Lleoliad
Ceredigion, Powys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog a Gweithredol
Gradd
D
Cyflog
£27,747 - £29,649
Lwfansau
Sifft, Gweithio Penwythnos
Canran Sifft
12.5%
Canran Sifft Gweithio Penwythnosau
10%
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad cau
15/12/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Rydym yn chwilio am geisiadau i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag yn 2026-2027.
Mae hon yn rôl hanfodol i staff yr heddlu o fewn ein tîm plismona bro; byddwch yn treulio amser yn gweithio gyda chymunedau Heddlu Dyfed-Powys, yn meithrin perthnasoedd, yn chwalu rhwystrau ac yn datrys problemau.
Nid oes un diwrnod yr un peth â’r llall fel SCCH, ac mae pob diwrnod yn dod â heriau newydd; ond yn y pen draw bydd popeth a wnewch yn gwella bywyd ein cymunedau. Fel SCCH yn Heddlu Dyfed-Powys gallech wneud y canlynol:
Gweithio i helpu cymunedau i adeiladu a ffynnu.
Meithrin cysylltiadau a pherthnasoedd â chymunedau – boed hynny’n fusnesau, yn breswylwyr, yn arweinwyr cymunedol neu’n asiantaethau partner.
Helpu i adeiladu a chynnal perthnasoedd â’n cymunedau amrywiol a’n pobl ifanc.
Bod yn bresenoldeb gweladwy yn y gymuned, gan gynnal patrolau hawdd eu gweld i roi tawelwch meddwl i bobl.
Ymateb i amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, anghydfodau rhwng cymdogion, cerbydau wedi’u gadael, a chynorthwyo gydag ymholiadau am bobl ar goll.
Defnyddio dull datrys problemau i ymdrin â materion hirdymor yn y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid a’r gymuned i helpu i’w datrys.
Helpu i dawelu meddwl a chefnogi dioddefwyr troseddau, gan gynnig cyngor atal trosedd i helpu i’w cadw’n ddiogel.
Helpu gyda phlismona digwyddiadau mawr, cynulliadau, gwyliau a sioeau.
Defnyddio’r pwerau a roddwyd i chi i helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn eich cymuned.
Casglu tystiolaeth teledu cylch cyfyng a chynnal ymholiadau o dŷ i dŷ i gynorthwyo ein hymchwiliadau.
Gweithredu fel tyst proffesiynol, gan fynd i’r llys pan fo angen.
Cyflog: Yn dechrau o £27,747 ac yn codi i £29,649 (nid yw hyn yn cynnwys unrhyw lwfansau sy’n gymwys wrth weithio sifftiau a phenwythnosau, yn dilyn y cyfnod hyfforddi cychwynnol).
Noder y rhagwelir y bydd ein swyddi gwag presennol yn bennaf yng Ngheredigion a Phowys. Byddwn yn penodi lle mae ein swyddi gwag ac felly, efallai y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau o’r ardaloedd hynny yn ôl yr angen.
Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ar gyfer y rôl hon, sy’n cynnwys rhaglen hyfforddi gychwynnol gydag amserlen gyffrous o gyrsiau ac yna cyfnod tiwtoriaeth am wyth wythnos mewn rhanbarth.
Canllawiau ymgeisio
Byddwch yn cael eich gwahodd i gystadlu yn y sifft cenedlaethol fel rhan o’r broses. Noder bod angen cwblhau hyn o fewn saith niwrnod i’ch gwahoddiad neu erbyn amser / dyddiad cau’r hysbyseb, pa un bynnag sydd gyntaf. Cadwch mewn cof, os byddwch yn methu’r prawf sifftio cenedlaethol ar-lein, ni fyddwch yn gymwys i’w gwblhau eto o fewn y tri mis nesaf, a dim ond ddwywaith y gallwch ei gwblhau mewn cyfnod o 12 mis. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw broses recriwtio arall mewn lifrai (Swyddog Heddlu, SCCH a Swyddog Heddlu Gwirfoddol / Cwnstabl Arbennig).
Nid yw’r profion ar-lein yn gydnaws â dyfeisiau llaw, e.e. cyfrifiadur llechen neu ffôn symudol, felly rhaid eu cwblhau ar gyfrifiadur bwrdd gwaith / gliniadur.
Os cewch unrhyw broblemau technegol wrth gwblhau’r profion, Heddlu Dyfed-Powys a fydd yn penderfynu a ddylid ailosod y prawf ai peidio.
Os yw’n berthnasol, rhaid i ymgeiswyr lanlwytho’r dystiolaeth ofynnol o’u cymwysterau Saesneg a Mathemateg lefel 2 wrth wneud cais, gan na dderbynnir unrhyw dystiolaeth hwyr. Os nad oes gennych dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael un cyn y dyddiad cau, neu fel arall gallwch gwblhau’r prawf rhesymu a chyfrifo llafar ar-lein.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriadau fetio a meddygol, a bydd gofyn i bob darpar SCCH gael ei olion bysedd a sampl DNA wedi’u cymryd.
Cynhelir cyfweliadau ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin ar 05/01/2026 & 06/01/2026.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, efallai y cewch wahoddiad i fynychu profion ffitrwydd, biometrig a chyffuriau ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin ar 09/01/2026.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r hawl i newid dyddiadau profion neu dderbyniadau yn ôl yr angen a chyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr sy’n dod i’r cyfweliadau oherwydd anghenion sefydliadol.
Bydd angen trwydded yrru llaw lawn arnoch er mwyn ymuno fel SCCH gan y bydd gofyn i chi basio prawf gyrru’r heddlu yn ystod eich cyfnod prawf. Gallwch wneud cais am y rôl heb llaw drwydded yrru ond ni ellir symud ymlaen tuag at ddyddiad cychwyn nes eich bod wedi cael eich llaw trwydded.
Cymraeg ac amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Gofynnwn i holl staff a swyddogion Heddlu Dyfed-Powys allu cyfathrebu i safon Lefel 1. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddeall ac ynganu enwau lleoedd Cymraeg a defnyddio a deall ymadroddion pob dydd syml fel cyfarchion. Os na allwch gyfathrebu i’r safon hon, yn ystod eich cyfnod prawf (chwe mis fel arfer) byddwn yn eich cefnogi’n llawn i gyflawni hyn trwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a siaradwyr Cymraeg.
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys ar gyfer gweithredu cadarnhaol yma.
A oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
E-bost: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Tudalen we:
Sesiwn galw heibio wythnosol ar gyfer recriwtio: bob dydd Mercher, 11am - 11.30am trwy Microsoft Teams yma.