Dewislen

Section Manager - Mental Wellness

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Tachwedd 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 27 Tachwedd 2025
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ006883

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o drefniant rhannu swydd Rheolwr Adain y Tîm Lles Meddyliol, sy’n gweithio gydag oedolion. Mae’n drefniant rhannu swydd 3 diwrnod, dydd Mercher i ddydd Gwener a hynny am gyfnod o 12 mis.

Mae’r Tîm Lles Meddyliol yn rhan o’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, sy’n darparu gwasanaeth diogel i blant, oedolion a'u gofalwyr drwy gynnig cymorth, arweiniad a chyngor i atal neu osgoi argyfwng. O’r herwydd, mae ystod o ymarferwyr profiadol ar gael i ddiwallu anghenion amrywiol ein cymunedau.

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a gwasanaethau eraill i ddarparu ymyriadau a chefnogaeth arbenigol ar gyfer pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl parhaus.

Dyma gyfle i ymuno â gwasanaeth sy’n credu’n gryf fod gan bobl y cryfder i newid eu bywydau. Mae’r tîm yn gweithredu ar sail gwerthoedd cadarn, sy’n cynnwys trugaredd a gobaith. Os ydych chi’n credu eich bod yn meddu ar y sgiliau, personoliaeth a’r ymrwymiad i weithio mewn trefniant o’r fath, ymunwch â ni.

Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Tesni Hadwin, Rheolwr Gwasanaeth (01492577802 / Tesni.hadwin@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

This is an exciting opportunity to form part of a job share as Section Manager of The Mental Wellness Team, who work with adults. The job share is for 3 days, Wed-Fri and is for a 12 month term.

The Mental Wellness Team are part of the Vulnerable People Service provides which a safe service to children, adults and their carers in delivering support, direction and advice to prevent or avert crisis. As such there is a varied available resource of experienced practitioners to meet the diverse needs of our communities.

We work closely with partners, and other services to provide specialist support and interventions for people experiencing complex needs due to ongoing mental health needs.

This is an opportunity to join a service who truly believe that people have the strengths to change their lives, the team functions from a strong value base that includes compassion and hope. If you believe you have the skills, the personality and the commitment to work in this way please come and join us.

Due to the nature of the post the successful candidates will be subject to a disclosure by the Disclosure and Barring Service.

Manager details for informal discussion: Tesni Hadwin, Service Manager (01492577802 / Tesni.hadwin@conwy.gov.uk)

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon