Day Service Support Worker
| Dyddiad hysbysebu: | 10 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 24 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Conwy County Borough Council |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | REQ006587 |
Crynodeb
Lleoliad gwaith: Conwy
Byddwch yn cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a chorfforol i gael dewis, rheolaeth a llais yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau i’r dyfodol.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth fod rhai pobl yn cyfathrebu eu teimladau gydag ymddygiad. Rydym yn chwilio am y rhai sydd ag ymagwedd ‘gallu gwneud’ ac sy’n gallu addasu eu sgiliau.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn ein Gwasanaethau Dydd ac allan yn y gymuned. Byddwch yn gallu annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddiddordebau a gweithgareddau arbennig sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles, fel mynd am dro, cymryd rhan mewn cwisiau, dysgu sgiliau TG, nofio, pobi, coginio, ffotograffiaeth a chrefftau.
Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo unigolion na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain a gall hynny gynnwys codi a chario.
Fel gweithiwr cefnogi Gwasanaeth Dydd bydd arnoch chi angen meddwl agored a chreadigrwydd, gan y byddwch chi’n cynorthwyo pobl i gyrraedd nodau, yn ogystal â chynorthwyo’r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, fel eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
Mae’n rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac felly mae gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol yn hollbwysig.
Efallai y bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a gyda’r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych chi gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Byddwch yn cwblhau rhaglen gyflwyno ac yn gallu gwneud hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi roi’r cyfleoedd gorau posibl i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn Hanfodol.
Bydd penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych chi’n chwilio am yrfa wobrwyol a boddhaus ac arnoch chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Rebecca Humphreys i gael sgwrs anffurfiol ar 01492576653 / 07753420240
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rebecca Humphreys, Rheolwr Tîm (Rebecca.Humphreys@conwy.gov.uk / 01492 576653)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Work base: Conwy
You will be Supporting Individuals with learning and physical disabilities to have choice, control and to support then to have their voice heard and support them to develop skills towards their longer term future.
You will be able to plan and implement imaginative activities that will also help them to develop skills.
You will need to have an understanding that some people communicate their feelings with behaviours. We are looking for those with a ‘can do’ and can adapt their skills to suit.
You will be working as part of a team in our Day Servicers and in the community. You would need to be able to motivate and support people to take part in a wide range of special interests and activities that support their health and wellbeing such as; walks, quizzes, IT skills, swimming, baking, cooking, photography and crafts to name a few.
Other duties may include assisting individuals who are unable to fully attend to their own personal care needs this may include manual handling.
As a Day Service support worker you would need to demonstrate an ability to be creative and open minded as you assist people towards achieving their goals, whilst also helping the team to provide a safe, caring and learning experience for so that they have the best quality of life possible.
Resilience is a must in our care sector. We all have our good and bad days and the ability to remain calm and supportive is a must.
There may be a requirement to work some unsociable hours such as weekends and evenings but we will work with you so you have a home / work life balance.
You will undertake an induction program and will be able to attend specialist training to give you all of the skills that will help you to give those that you are working with the best opportunities to fulfil their lives.
The ability to communicate and converse in English is desirable.
Appointment to this post will be subject to 2 satisfactory references and a DBS check.
If you’re looking for a rewarding and fulfilling career and would like to know more, give us a call for an informal chat call Rebecca Humphreys on 01492576653 / 07753420240
Manager details for informal discussion: Rebecca Humphreys, Team Manager (Rebecca.Humphreys@conwy.gov.uk / 01492 576653 )
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd