Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

Swyddog Clercyddol Adnoddau Dynol /

Job details
Posting date: 29 October 2025
Hours: Full time
Closing date: 12 November 2025
Location: LL57 2DG - option to spend some time working remotely which will be discussed further with candidates at interview.
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: BU03909

Summary

PRIFYSGOL BANGOR

ADNODDAU DYNOL

Swyddog Clercyddol Adnoddau Dynol

(Cyf: BU03909)

Cyflog: £24,344 - £26,338 y flwyddyn (Graddfa 4)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn yr adran Adnoddau Dynol sy’n rhan o’r Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd y Swyddog Clercyddol Adnoddau Dynol yn adrodd i'r Swyddog Adnoddau Dynol (Datblygu Staff) ac yn darparu cefnogaeth weinyddol a chlercyddol i'r adran Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau bod cofnodion gweithwyr yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn gywir yn y systemau priodol, ynghyd â dogfennaeth a gweithrediadau’r adran Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd. Mae'r swydd yn cael ei hariannu'n rhannol gyda chyllid iechyd a llesiant gan MEDR, a bydd gan ddeiliad y swydd amrywiaeth o gyfrifoldebau clercyddol a gweinyddol ar draws nifer o swyddogaethau o fewn y tîm Adnoddau Dynol, gan gefnogi amrywiaeth o weithgarwch gweinyddol.

Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 5 cymhwyster TGAU gyda graddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu gymhwyster NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa/gweinyddol.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 382646.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 Tachwedd 2025

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Mari Ellis Roberts, mari.ellis-roberts@bangor.ac.uk.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

------------------------------

BANGOR UNIVERSITY

HUMAN RESOURCES

HR Clerical Officer

(Ref: BU03909)

Salary: £24,344 - £26,338 p.a. (Grade 4)

Applications are invited for the above permanent full-time post working in Human Resources within the Professional Services domain within Bangor University.

Reporting to the HR Officer (Staff Development) the HR Clerical Officer provides administrative and clerical support to the Human Resources department, ensuring the efficient and accurate maintenance of employee records in respective systems, HR documentation, and day-to-day HR operations. The role is part-funded by MEDR health and wellbeing funding, and provides the role holder with a variety of clerical and administrative responsibilities across a number of functions within the HR team, supporting a range of administrative activity.

Candidates should have a minimum of 5 GCSEs at grades A* - C (incl. English and Maths) or NVQ level 2 in a relevant subject area (or equivalent) and have previous experience of working within an office /administrative environment.

The ability to communicate in Welsh is essential for this post.

The successful candidate will be expected to commence as soon as possible.

This role will be located on campus at Bangor. Through our Dynamic Working framework, there will also be the option to spend some time working remotely (although remaining in the UK) to support work life balance, which will be discussed further with candidates at interview.

Applications will also be considered to carry out this role on a part-time or job share basis.

Applications will only be accepted via our on-line recruitment website, jobs.bangor.ac.uk. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 382646.

Closing date for applications: 12 November 2025

Informal enquiries can be made by contacting Mari Ellis Roberts, mari.ellis-roberts@bangor.ac.uk.

Committed To Equal Opportunities