Warning
This job advert has expired and applications have closed.
Intern Cynaliadwyedd
| Posting date: | 22 October 2025 |
|---|---|
| Salary: | £24,312 per year |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 17 November 2025 |
| Location: | SA31 2PD |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Dyfed-Powys Police |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Gwasanaethau Cyfreithiol
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog
Gradd
Interniaeth
Cyflog
£24,312
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Tymor Sefydlog
Rhoi Nifer o Fisoedd (Misoedd)
12
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
4 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau
17/11/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Ydych chi'n chwilio am swydd sy'n mynd i roi boddhad i chi a'ch herio a lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig?
Ydych chi am fod yn rhan o dîm anhygoel o bobl, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau?
Os hynny, efallai mai interniaeth â thâl gyda Heddlu Dyfed Powys yw'r lle i chi ddechrau eich gyrfa.
Cyflog y swyddi hyn ywf £24,312 a hynny am gyfnod penodol o 12 mis, i ddechrau ym mis Medi 2026.
Fel intern cynaliadwyedd, byddwch chi wrth galon ein taith tuag ddod yn sefydliad mwy gwyrdd a chynaliadwy. Byddwch chi’n adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol er mwyn sicrhau ein bod ni ar y llwybr cywir, wrth gasglu data hanfodol i hysbysu ein cynlluniau.
Pwy ydyn ni:
Heddlu Dyfed Powys yw'r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Mae'n cwmpasu 4,188 milltir sgwâr dros y pedair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai hon yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, a gellir dadlau mai hon hefyd yw'r fwyaf deniadol.
Sut mae'n gweithio:
Mae ein hinterniaethau yn rhoi cyfle i israddedigion gael eu cyflogi gan Heddlu Dyfed Powys. Maent wedi'u cynllunio i roi cipolwg anhygoel i chi o sut rydym yn gweithio. Dyma gyfle i chi roi eich gwybodaeth academaidd ar brawf mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwn eich sicrhau y byddwch yn cael eich cefnogi gydol eich interniaeth gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Am bwy rydyn ni'n chwilio:
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein.
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig sydd am ennill sgiliau cyflogadwyedd rhagorol ochr yn ochr â'u hastudiaethau gradd. Rydym am benodi interniaid sy'n llawn syniadau arloesol, sydd ag etheg gwaith gwych ac sy'n gallu gweithio mewn amgylchedd tîm mewn sefydliad disgybledig.
A allech chi fod yn intern a fydd yn dod â sgiliau newydd a phersbectif ffres i'n helpu i herio ein ffyrdd presennol o weithio?
Sut i wneud cais:
Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho CV a chwblhau datganiad personol sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir yn y proffil rôl. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn gofyn i chi fynychu cyfweliad.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaeth Heddlu Dyfed Powys:
Rhaid i chi fod yn astudio ar gwrs gradd ar hyn o bryd neu wedi graddio o fewn y 12 mis diwethaf
Rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am pum blynedd olynol, yn union cyn gwneud. Mae’r cyfnod pum blynedd yn cyfeirio at y cyfnod yn syth cyn y gwneir cais.
Sylwer:
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â fetio gofynnol Heddlu Dyfed Powys.
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys yng Nghaerfyrddin ar: 04/12/2025 and 05/12/2025.
Ceidw HDP yr hawl i gau'r hysbyseb hon os ydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau addas. O'r herwydd, rydym yn annog ceisiadau cynnar er mwyn sicrhau eich hystyried am swydd.