Partnerships Officer - Fundraising & Revenue
Dyddiad hysbysebu: | 18 Gorffennaf 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 04 Awst 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ006717 |
Crynodeb
Venue Cymru yw Canolfan Adloniant a Chynadledda brysuraf y rhanbarth. Mae’r Venue yn cynnwys awditoriwm 1500 sedd, Arena sydd â lle i 2500 o bobl sefyll ynghyd â chyfleusterau Cynadledda ac Arddangos mawreddog. Mae Venue Cymru hefyd yn rheoli Theatr Colwyn, theatr 333 sedd a sinema ym Mae Colwyn. Rydym nawr yn recriwtio Swyddog Marchnata – Codi Arian a Refeniw i ymuno â’n tîm.
Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Partneriaethau yn y gwaith o sicrhau incwm ychwanegol i’r gwasanaeth trwy amrywiol weithgareddau codi arian a chynyddu incwm eilaidd trwy amrediad o fentrau mewnol.
Mae’r swydd yn cynnwys:
Sicrhau incwm trwy werthu gofod hysbysebu yng nghyhoeddiadau printiedig a sianelau ar-lein Venue Cymru, ac ar fyrddau poster sy’n eiddo i Venue Cymru ledled y Sir.
Datblygu perthnasoedd cadarnhaol â phob hysbysebwr, noddwr a rhoddwr; a chynnig gwasanaeth rheoli cleientiaid o’r radd flaenaf.
Ymchwilio i, a datblygu mentrau creu incwm newydd ar gyfer y gwasanaeth.
Mae’n rhaid i chi fod â phrofiad eang a llwyddiant blaenorol amlwg o weithio mewn rôl farchnata neu rôl yn ymwneud â masnach/ nawdd, yn ogystal â meddu ar gymhwyster marchnata perthnasol a bod yn hyblyg o ran trefniadau gwaith er mwyn cwrdd â therfynau amser pwysig a mynychu nosweithiau a digwyddiadau cleientiaid yn rheolaidd (a gynhelir fin nos, ar benwythnosau a gŵyl y banc).
Mae’r rôl yn ffurfio rhan o dîm prysur ac er y bydd goruchwyliaeth ar gael yn rheolaidd, bydd disgwyl i chi ddangos lefel uchel o fentergarwch, gan wneud penderfyniadau o fewn canllawiau bras. Mae’n rhaid i chi ddangos gwytnwch o dan bwysau ac addasu arferion gwaith yn unol ag anghenion gwasanaeth newidiol, gan gydweithio o fewn ac ar draws timau/gwasanaethau. Mae disgwyl i unigolion gynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â phartneriaid busnes, cleientiaid, asiantaethau allanol, cyflenwyr, y cyfryngau, cwmnïau cynhyrchu, trefnwyr digwyddiadau, artistiaid sy’n perfformio a chwsmeriaid, gan ymddwyn â chwrteisi a phroffesiynoldeb bob amser.
Er mwyn sicrhau darpariaeth ddwyieithog ddigonol o fewn yr adain, mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Anwen Jones, Rheolwr Partneriaethau (Anwen.jones@venuecymru.co.uk / 01492 879771)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Work base: Venue Cymru/Hybrid
Venue Cymru is the region's busiest Entertainment and Conference Centre. The venue comprises of a 1500 seat auditorium, an Arena that can accommodate 2500 standing combined with prestigious Conference and Exhibition facilities. Venue Cymru also manages Theatr Colwyn, a 333 seat theatre and cinema in Colwyn Bay. We are now recruiting for a Partnerships Officer – Fundraising & Revenue to join our team.
You will be supporting the Partnerships Manager in obtaining additional income for the service through a range of fundraising activities and increasing secondary income through a range of internal initiatives.
The post involves:
Obtaining income through selling advertising space in Venue Cymru printed publications, online channels and on Venue Cymru owned poster boards throughout the County
Developing positive relationships with all advertisers, sponsor and donors and to offer a first class client management service
To research and develop new income generation initiatives for the service
You must demonstrate a proven track record and extensive experience of working in a marketing or commercial/sponsorship role and you must have a relevant marketing qualification and be flexible in working arrangements in order to meet important deadlines and attend regular client nights and events (which take place during evenings, weekends and bank holidays).
The role is part of a busy team and although supervision will be regularly available, you will be expected to show a high degree of initiative, making decisions within broad guidelines. You must show resilience under pressure and adapt working practices in line with changing service needs, working collaboratively within and across teams/services. Individuals are expected to maintain effective communications with business partners, clients, external agencies, suppliers, media, production companies, event planners, performance artists and customers, acting with courtesy and professionalism at all times.
To ensure adequate bilingual provision within the section, the ability to communicate in Welsh as well as English is essential for this post.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Anwen Jones, Partnerships Manager (Anwen.jones@venuecymru.co.uk / 01492 879771)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd