Dewislen

Training Coordinator

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 18 Gorffennaf 2025
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Conwy, Conwy County
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ006716

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Cydlynydd Hyfforddiant - Sgiliau a Dysgu sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned


Ydych chi’n angerddol am rymuso cymunedau drwy ddysgu cynhwysol? Ydych chi’n credu mewn rhoi ail gyfle, potensial sydd heb ei gyffwrdd a phŵer trawsnewidiol sgiliau?


Rydym ni’n chwilio am Gydlynydd Hyfforddiant empathig, trefnus, sy’n angerddol am eu cymuned i ymuno â’n tîm a helpu unigolion sydd yn bell o’r farchnad lafur i ddatgloi cyfleoedd newydd. Yn y swydd hon sy’n rhoi boddhad, byddwch yn gweithio gyda’n cyfranogwyr, cyflogwyr, partneriaid, a sefydliadau lleol i adnabod bylchau mewn sgiliau yn y byd gwaith - a dod â dysgu yn fyw drwy hyfforddiant hygyrch sy’n cael ei ddarparu ar-lein ac wyneb yn wyneb.


Beth fyddwch chi’n ei wneud:

Ymgysylltu gyda chyflogwyr a phartneriaid cymunedol i adnabod anghenion hyfforddiant lleol
Dylunio, darparu neu gomisiynu hyfforddiant o safon uchel i bobl sy’n wynebu sawl rhwystr i gyflogaeth
Olrhain cynnydd yn erbyn y rhaglenni a ariannir a chyfrannu at brif ganlyniadau prosiect
Recordio data, rheoli cyllidebau, a sicrhau bod darparu hyfforddiant yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn
Meithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhwysol sydd yn adlewyrchu ar gryfderau ac anghenion amrywiol ein cymuned

Beth rydym ni’n chwilio amdano:

Sail gwerthoedd cryf gydag ymrwymiad gwirioneddol i gynhwysiad cymdeithasol a datblygu cymunedol
Profiad o gydlynu hyfforddiant, dysgu i oedolion, neu raglenni cyflogadwyedd
Cyfathrebwr hyderus sydd yn gallu meithrin ymddiriedaeth a phartneriaethau cydweithredol
Sgiliau trefnu ardderchog gyda llygad am fanylion o ran monitro, gwerthuso a rheoli’r gyllideb.
Cred gwirioneddol ym mhotensial pobl a’r creadigrwydd i’w ddatgloi
Mae’r swydd hon yn fwy na swydd hyfforddiant - mae’n gyfle i greu newid lle mae’r angen amdano fwyaf.


Ymunwch â ni a helpwch i siapio dyfodol mwy llewyrchus ar draws Conwy.


Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Libby Duo, Rheolwr Strategol (Libby.duo@conwy.gov.uk / 01492 575509)


Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Work base: Coed Pella

Training Coordinator – Community-Focused Skills & Learning


Are you passionate about empowering communities through inclusive learning? Do you believe in second chances, untapped potential, and the transformative power of skills?


We’re looking for an empathetic, organised and community-driven Training Coordinator to join our team and help individuals furthest from the labour market unlock new opportunities. In this rewarding role, you’ll work hand in hand with our participants, employers, partners, and local organisations to identify real-world skills gaps—and bring learning to life through accessible training, delivered both online and face-to-face.


What you’ll be doing:

Engaging with employers and community partners to identify local training needs
Designing, delivering or commissioning high-quality training for people with multiple barriers to employment
Tracking progress against multiple funded programmes and contributing to key project outcomes
Recording data, managing budgets, and ensuring training delivery is both efficient and person-centred
Fostering a positive, inclusive learning environment that reflects the diverse strengths and needs of our community

What we’re looking for:

A strong values base with a real commitment to social inclusion and community development
Experience in training coordination, adult learning, or employability programmes
A confident communicator who can build trust and collaborative partnerships
Excellent organisational skills and an eye for detail when it comes to monitoring, evaluation and budget management
A genuine belief in people’s potential and the creativity to help unlock it
This is more than a training post—it’s an opportunity to create ripples of change where they’re needed most.


Join us and help shape brighter futures across Conwy.


This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.

Manager details for informal discussion: Libby Duo, Strategic Manager ( Libby.duo@conwy.gov.uk / 01492 575509)

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon