Dewislen

SWYDDOG CLUDO’R STORFEYDD

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 09 Gorffennaf 2025
Cyflog: £25,584 i £25,992 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 07 Awst 2025
Lleoliad: Llantrisant, Pontyclun
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 505017

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae swydd barhaol ar gyfer Swyddog Trafnidiaeth Warws wedi codi yn adran Gaffael yr Adran Gyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân, Llantrisant.

Gofynnir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwasanaeth prynu, gwasanaeth cownter a chyflenwi o ddydd i ddydd ynghyd â chynorthwyo wrth weinyddu'r storfeydd, gan gynnwys cynnal lefelau stocio, gwirio pryniadau, anfonebu am nwyddau a threfnu atgyweiriadau a materion arbenigol ar draws y sefydliad.

Bydd yr Ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae Cynllun
Gweithio Hyblyg yn weithredol. Mae'r rôl yn cynnwys teithio rhwng safleoedd ledled De Cymru a rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu teithio'n annibynnol. Mae'r rôl yn cynnwys peth gwaith penwythnosol/gweithio y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Gwneud cais am y swydd hon