Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

Swyddog Crwner - Sir Gaerfyrddin

Job details
Posting date: 17 February 2025
Salary: £31,296 to £34,329 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 24 February 2025
Location: Llanelli, Carmarthenshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Summary

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol
Lleoliad Llanelli
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E
Cyflog £31,296 - £34,329 (FTE)
Rhan/Llawn Amser Rhan Amser
Oriau'r Wythnos 18.5
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 11 Mawrth 2025
Dyddiad cau 24/02/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Crwner yn Sir Gaerfyrddin.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cydlynu ymchwilio i farwolaethau sydyn, treisgar, amheus neu annaturiol a chynorthwyo Crwneriaid EM mewn dyletswyddau cyfreithiol a diogelu’r cyhoedd gan ddileu staff eraill rhag unrhyw gysylltiad diangen.

Mynychu lleoliadau marwolaethau, archwilio a sefydlu hunaniaeth y corff a threfnu ei symud gan sicrhau y gwarchodir eiddo personol ac y diogelir safleoedd.
Asesu ac archwilio i adroddiadau am farwolaethau sydyn, treisgar, amheus neu annaturiol lle nad oes tystysgrif wedi’i chyhoeddi.
Ymgysylltu â’r rhai sy’n galaru, swyddogion ymchwilio, Crwneriaid a phatholegwyr.
Paratoi ffeiliau cwest a rhoi tystiolaeth o’r ffeithiau sy’n hysbys mewn cwest.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.