Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Swyddog Ymgysylltu (Rhaglen Multiply) (12331)

Reference: APR20247663
Expiry date: 2024-05-03 11:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: Competitive
Benefits: Gwyliau Blynyddol hael, Cynllun Pensiwn ac Iechyd
Duration:Contract Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025
Attachments: EngagementOfficer(Multiply)-Advert(English)_wel.docx
EngagementOfficer(Multiply)JD_wel.docx

Swydd Wag Fewnol / Allanol

 

Cyf:                          12331

Teitl y Swydd:         Swyddog Ymgysylltu (Rhaglen Multiply)

Contract:                 Contract Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser

Lleoliad:                  Heol Colcot, Y Barri

Oriau:                      37

Cyflog:                     £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu i gefnogi'r rhaglen Multiply, yn bennaf ar draws ein campysau Bro Morgannwg, ond gyda’r disgwyliad i gyflenwi ar ein campysau canol y ddinas yn ôl yr angen. Mae'r rhaglen Multiply yn canolbwyntio ar gefnogi oedolion sy’n ddysgwyr (19+ oed) gyda’u sgiliau rhifedd ar gyfer gwaith neu fywyd bob dydd.

 

Bydd deiliad y swydd yn ehangu'r ddarpariaeth drwy gefnogi:

 

  • Recriwtio a chadw dysgwyr,
  • Ymgysylltiad ehangach y gymuned â’r rhaglen mewn digwyddiadau/gweithdai.
  • Datblygiad gweithio mewn partneriaeth i wella’r cynnig cwricwlwm.
  • Datblygiad dysgwyr i gyrsiau pellach (rhan amser /llawn amser)
  • Marchnata a hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau Multiply ledled y sefydliad.  

 

Bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr, sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth neu sy’n chwilio am ail gyfle yng nghyd-destun addysg. Yn ogystal â hyn, bydd gennych brofiad amlwg o weithio ar draws sefydliadau a chydweithio ag asiantaethau partneriaid allanol. Bydd gennych gefndir addysgiadol cryf a byddai cefndir fel anogwr dysgu neu mewn gwaith ieuenctid/cymunedol hefyd yn fanteisiol.

 

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys cynllun pensiwn hael, mynediad at ostyngiadau amrywiol fanwerthwyr Ar-lein ac ar y Stryd Fawr drwy ein cynllun Porth Gwobrwyo, Cynllun Arian Parod a mynediad at lwybrau gyrfa cyffrous yn y coleg.

 

Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau yw 03/05/2024 am 12:00pm. Cynhelir y cyfweliadau ar: 25/04/24

 

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.